Rhai o staff Cwmni Da

Amdanom Ni

Ein gwaith a’n gwerthoedd craidd

AMDANOM NI

Genres a Gwobrau

Mae Cwmni Da yn gwmni cyfryngau annibynnol ym mherchnogaeth y gweithlu. Rydym yn gweithio mewn sawl maes, o ffilmiau dogfen sengl i gyfresi adloniant ac o adloniant ffeithiol i ddramâu a rhaglenni plant. Mae ein timau cynhyrchu talentog yn rhannu storfa o brofiad a gwybodaeth gyda’r gallu i fynd i’r afael ag unrhyw frîff.

Mae ein cynyrchiadau wedi ennill nifer o wobrau Bafta Cymru a Chyfryngau Celtaidd, sawl gwobr ‘One World Media’, a’r wobr ‘Jules Verne Adventure’. Mae’r cwmni hefyd wedi ei enwebu ar gyfer gwobrau Bafta Kids UK ac RTS.

Dyma restr o’n gwobrau

Tir, Iaith, Lleol

Mae’n fraint nid yn unig i gael byw mewn rhan mor brydferth o’r byd, dim ond tafliad carreg o droed yr Wyddfa, ond i gael gweithio yma hefyd. Felly, mae sicrhau dyfodol hir-dymor a chynaliadwy i’n busnes, un sy’n helpu bwydo a datblygu yr economi leol, yn rhan greiddiol o’n gweledigaeth.

Er ein bod ni’n gweithio yn ddwyieithog, rydym yn credu bod gweithio yn y Gymraeg, a chreu cynnwys yn y Gymraeg yn cyfrannu at warchod ein hiaith, ein hunaniaeth a’n diwylliant i genedlaethau’r dyfodol.

scribble borderscribble border

0

Gweithlu

0

Llawn Amser

0

Rhan Amser

0

Llawrhydd

scribble borderscribble border

Pobol a Pheiriannau

Ein Pobol

Mae gweithlu Cwmni Da yn cynnwys amrywiaeth eang o bobol mewn swyddogaethau amrywiol.

Mae 26 o bobol yn gweithio yn yr adran gynhyrchu a 18 o bobol yn gweithio yn yr adran ôl-gynhyrchu.

Rydym yn cyflogi 8 golygydd llawn amser, 2 arbenigwr graffeg, a thîm penodol ar gyfer platfformau newydd, cyfryngau cymdeithasol, a digidol. Mae 10 o bobol yn gweithio yn yr adran weinyddol, sy’n cynnwys clirio hawlfraint, cyfrifon, rheoli a datblygu busnes.

Ein Cit

Rydym yn defnyddio camerau diweddaraf Sony Cinema Line sy’n dal yr emosiwn ym mhob ffrâm.

Ar gael i’w llogi: 

Sony FX3, Sony FX6, Sony FX9

Camerau eraill sydd ar gael i’w llogi. 

Sony A7s mkiii, Sony Z150, Sony PDW 700, XD CamSony PTZ

Mae nhw’n dweud bod un llun yn werth mil o eiriau. Dyma ein showreel ddiweddaraf…

play video

Adeilad hanesyddol sy’n llawn technoleg gyfoes

Mae ymwelwyr yn aml yn disgrifio ein cartref yn y Goleuad fel Tardis, â’i ddyluniad mewnol modernaidd yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’i gragen hanesyddol, sy’n dyddio ‘nôl i’r 19eg ganrif.

Prif gofod yr adeilad yw stiwdio sgrîn werdd fawr, un o’r mwyaf o’i math yng Ngogledd Cymru. Mae 15 o ystafell golygu, pob un wedi’i gysylltu trwy’r storfa rhannu NEXUS.

 

Adeilad Cwmni Da

Adnoddau Ôl-gynhyrchu

O’r creu i’r cyfleu – mae Cwmni Da yn cynnig gwasanaeth cynhyrchu cyflawn.

Mae ein cyfleusterau ôl-gynhyrchu yn cynnwys 4 peiriant ‘ingest’ a 15 o weithfannau Avid, pob un â monitor fideo, sain llawn a meicroffonau trosleisio. Mae ein hystafell gwir olygu Symphony yn cynnig ategion Baselight, Boris a Saffire. Mae gennym nifer o adnoddau chwarae yn ôl, a gallwn ymdrin â fformatau digidol amrywiol. Yn ganolog i’r adnoddau ôl-gynhyrchu mae ystafell beiriannau bwrpasol a llu o ystafelloedd golygu cysylltiedig.

Mae gennym ddwy ystafell ôl-gynhyrchu sain, y ddwy wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer ôl-gynhyrchu teledu. Mae’r ddwy yn defnyddio meddalwedd Protools HD llawn gan gynnwys desg gymysgu, meic trosleisio ac mae dau bŵth trosleisio annibynnol. Mae’r adnoddau’n cynnwys talkback, monitor lluniau maint llawn ac adnoddau dal fideo a chwarae yn ôl.

Mae ein hadran graffeg yn defnyddio’r Adobe Suite llawn, gan gynnwys After Effects a hefyd meddalwedd Cinema 3D. Hefyd mae gennym ystafell paratoi a dosbarthu ffeiliau sy’n cyfleu cynhyrchiad gorffenedig o fewn munudau i ddarlledwyr.

Darganfod mwy…

Ein Heffaith

Mwy…

Ein Cwmni

Mwy…

Ymunwch â Ni

Mwy…