Mae'r Wyddfa yn fynydd y mae pobl yn dod yn ôl ato o hyd. Dyma’r mynydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain, ac mae’n mynd yn brysurach bob blwyddyn. Mae pobl yn barod i giwio am hyd at 45 munud ar adegau prysur i ddringo’r ychydig gamau olaf i’r copa, i dynnu’r darlun hollbwysig hwnnw. Mae'r Wyddfa eisoes yn denu tua 750,000 o bobl y flwyddyn. Wrth i ganolfan ymwelwyr y copa baratoi i ail-agor, a’r trên enwog yn cludo teithwyr i’r brig am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019, mae disgwyl y nifer uchaf erioed o ymwelwyr yn 2023. Mae’n edrych fel mai hwn yw eu haf prysuraf eto. Gyda’r mynydd yn sefyll ar 1,085 metr uwchben lefel y môr, mae cynnal y trac rheilffordd pum milltir o hyd a’r ganolfan ymwelwyr yn her enfawr. Mae miloedd o litrau o ddŵr yn cael eu cludo ar y trên bob dydd i gyflenwi’r toiledau, ac mae’n rhaid cario’r holl wastraff i lawr eto. Mae'r siop a'r caffi yn cael eu hailstocio'n ddyddiol, gan gynnwys digonedd o gyflenwadau o'r rholiau selsig enwog, y mae dros 50,000 ohonynt yn cael eu gwerthu bob blwyddyn.
Rheilffordd yr Wyddfa yw’r unig reilffordd rac-a-piniwn ym Mhrydain
Rheilffordd yr Wyddfa yw’r unig reilffordd rac-a-piniwn ym Mhrydain, ac mae ei locomotifau stêm a adeiladwyd yn y Swistir wedi bod yn gwneud y daith ddwyffordd ddeng milltir o Lanberis ers 1896. Mae dros 1,000 o deithwyr yn teithio ar y trên bob dydd i fwynhau’r golygfeydd godidog, a mae’r cwmni’n cyflogi dwsinau o bobl leol drwy gydol y flwyddyn. Amcangyfrifir bod Yr Wyddfa werth tua £20 miliwn y flwyddyn i’r economi leol, ond daw am bris. Mae wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn patrolio’r mynydd i geisio sicrhau diogelwch cerddwyr, tra bod gwirfoddolwyr yn treulio’u penwythnosau yn casglu tunnell o sbwriel wedi’i daflu o’r llethrau. Mae sathru cyson cannoedd o filoedd o droedfeddi yn achosi difrod i’r llwybrau troed, y mae angen eu hatgyweirio, tra bod trafnidiaeth a pharcio bob amser yn asgwrn cynnen. Mae ceir sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon yn cael eu tynnu i ffwrdd yn nodwedd gyson ar adegau prysur, yn ogystal â’r llif cyson o fysiau a thacsis sy’n cludo cerddwyr awyddus i droed y mynydd. Mae’r Wyddfa yn eiddo i 26 o dirfeddianwyr preifat, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â ffermio eu tir. Mae defaid a gwartheg yn crwydro’r llethrau fel y maen nhw wedi gwneud ers cannoedd o flynyddoedd, yn cymysgu â cherddwyr ac yn anwybyddu’r trenau. Gall fod yn berthynas anesmwyth rhwng twristiaid a’r rhai sy’n gorfod gwneud bywoliaeth oddi ar y tir. Mae’n rhaid i’r ddwy ochr ddysgu parchu a byw gyda’i gilydd.