Dim ots os ydych chi rhwng 6 a 96 oed - mae gan bob un ohonom ein harwr cerddorol. Ond os fysech chi'n cael y cyfle i rannu llwyfan gydag unrhyw un, pwy fyddech chi’n ei ddewis?
Gyda Rhys Meirion wrth y llyw yn teithio i bob cwr o Gymru i wireddu breuddwydion pobl i ganu gyda’u harwyr cerddorol...
Gyda Rhys Meirion wrth y llyw yn teithio i bob cwr o Gymru i wireddu breuddwydion pobl i ganu gyda’u harwyr cerddorol, mae hon yn rhaglen llawn hwyl sy’n sicr o godi calon yn ystod nosweithiau oer y gaeaf. Yr arwyr fydd yn rhoi gwên ar wynebau eu ffans yn y gyfres yw Elin Fflur, Dafydd Iwan a Shân Cothi ac mae tri pherson gwahanol ym mhob rhaglen yn cael y cyfle i wireddu eu breuddwyd. Cafwyd degau o ymatebion i’r alwad – rhai yn enwebu eu hunain ac eraill yn cael eu henwebu gan ffrindiau neu deulu, fel sypreis llwyr!