Chris a’r Afal Mawr

S4C | 3 x 60' |

Mae Chris ‘Flamebaster’ yn ôl a’r tro hwn, taith fythgofiadwy i Efrog Newydd sydd ar y fwydlen.

Yn y bennod gyntaf o’r gyfres newydd Chris a’r Afal Mawr, cawn ein cyflwyno i glasuron Efrog Newydd. Un o’r bwydydd sy’n sicr yn glasur yn y ddinas yma yw pastrami, a’r lle cyntaf mae Chris yn mynd yw Kat’z Delicattessen, y deli hynaf yn Efrog Newydd, sydd yn arbenigo mewn brechdanau pastrami enfawr. Ond sydd efallai fwyaf adnabyddus am olygfa enwog yn y ffilm When Harry Met Sally.

Chris 'Flamebaster' Roberts cooking with Matthew Rhys in New York.play video

“This isn’t work, this is fun."

Heb amheuaeth, clasur arall yn Efrog Newydd yw’r pitsa. A pa ffordd well o gael blas ar rhai o’r gorau na mynd ar daith pitsa mewn bws ysgol felen eiconig dros y ddinas? Un (o lawer) o’r bwytai pitsa ar y daith yma yw Luigi’s, sy’n gwneud y New York Slice enwog – pitsa mawr sy’n cael ei werthu fesul sleis. Yma, mae Chris a’i griw yn cwrdd â Gio, y perchennog, a mab Luigi. Fe wariodd Luigi lawer o arian ar addysg ei fab er mwyn iddo fynd ymlaen i gael swydd dda. Ond ar ôl gweithio mewn swyddfa am lai na blwyddyn, penderfynodd Gio mai dilyn llwybr ei dad yn gwneud pitsa oedd y llwybr iddo fo, a dydi o heb edrych yn ôl:

“This isn’t work, this is fun. When you love what you do its not work,” meddai Gio.

Rhywbeth arall sy’n sicr yn glasur, ond efallai nid pawb sy’n gwybod amdano yw’r ‘Chopped Cheese’. Brechdan sy’n gymysgedd o gig eidion mân a chaws, sy’n boblogaidd iawn ymysg dinasyddion go iawn Efrog Newydd. A’r lle i gael un ydi Shmackwich, gan Chef Sibs, sydd wedi mynd a’r clasur yma i’r lefel nesaf. “New York in a bite” yw’r frechdan yma, yn ôl Sibs. Yng nghanol yr holl fwytai anhygoel, mae Chris hefyd yn coginio bwydydd sydd wedi’i ddylanwadu ar y ffordd (gyda’r BBQ wrth gwrs!) fel calzone sy’n plethu’r pitsa a’r ‘Chopped Cheese’ ac mae’n cael y cyfle i goginio mewn digwyddiadau arbennig i bobl y ddinas.

Trwy gydol y gyfres, mae Chris yn cael cwmni rhai o Gymry Efrog Newydd sy’n byw a gweithio yno, fel yr actor enwog Mathew Rhys. Ac yn y bennod olaf, mi fydd un o’i ffrindiau gorau, y cogydd amryddawn Tomos Parry, yn hedfan draw ato i ddangos y llefydd mae o eisiau bwyta. Cogydd yn y bwyty enwog Brat yn Llundain, sy’n coginio bwyd Michelin gyda thân, yw Tomos. Mae Brat yn cael ei adnabod fel un o’r llefydd gorau i fwyta ym Mhrydain ac ar y rhestr o’r 100 lle gorau i fwyta yn y byd. Felly dewch i gwrdd â chymeriadau arbennig, pob un â gwên a stori unigryw mewn dinas eiconig sy’n cynnwys pum bwrdeistref, 800 iaith a llwyth o ddiwylliannau. Yng ngeiriau Chris:

“Cymrwch chill, tolltwch ddrinc bach a byddwch yn barod i lyfu’r sgrin ‘na, ia!”