Cymru, Dad a Fi

S4C | 3x60' |

Mae’n anodd credu ond mae tua 100 o ynysoedd bach a mawr oddiar arfodrir Cymru.

Mae’n anodd credu ond mae tua 100 o ynysoedd bach a mawr oddiar arfodrir Cymru. O’r rhai mawr amlwg fel Ynys Môn i’r rhai llai fel Ynys Tudwal a rhai pitw fel Ynys Gorad Goch, mae straeon a hanesion difyr i bob un. Mae’r rhai amlwg fel Ynys Enlli a Ynys Llanddwyn yn rhan o’n treftadaeth, diwylliant a chwedloniaeth.Mae ynysoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig yn hanes a stori bersonol Connagh Howard a’i dad Wayne. Daeth Wayne i amlygrwydd fel enillydd dysgwr y flwyddyn yn 2003, a’i fab Connagh fel un o sêr cyfres ‘Love Island’ yn Ionawr 2020.

Daeth tad Wayne i Gymru o ynys Jamaica, yn un o genhedlaeth Windrush, a’i daid o ynys Ciwba.

Daeth tad Wayne i Gymru o ynys Jamaica, yn un o genhedlaeth Windrush, a’i daid o ynys Ciwba. Mae mam Connagh, Lynda, yn dod o Iwerddon ac mae’n disgrifio ei deulu fel ‘tipyn o melting pot, gyda phobol o bob man’. Tydi Connagh na Wayne erioed wedi ymweld a’r un ynys Gymreig, hyd yn oed Ynys Môn.

Yn y gyfres yma gwelwn y tad a’r mab ar daith o gwmpas ynysoedd Cymru. Dilynnwn y ddau o’r tir mawr i ddarganfod darnau o Gymru sydd yn ddieithr ac annisgwyl. Bydd yn ddau yn rhannu’r profiadau gyda’i gilydd a gyda’r gwylwyr, gan gyfarod ac ambell gymeriad ar y ffordd.