Fe fydd y camerâu yn ymweld â chartrefi cymeriadau ledled Cymru ac ymhellach - o Gaernarfon i Gaerdydd ac o Faerdy i Fanceinion - ac yn rhannu gyda ni eu barn am raglenni o Gymru a thu hwnt. Yn lleisio'r cyfan fydd y cyflwynydd, digrifwr a'r Gogglebocs fan, Tudur Owen.