Radio Fa’ma

S4C | 6 x 60' |

Y rhaglen radio sydd hefyd yn raglen deledu

Tara Bethan a Kris Hughes sy'n teithio led led Cymru mewn fan ac yn tynnu carafán sy’n trawsnewid i orsaf radio symudol.

O brofiadau dwys i'r rhai ysgafn...

Ar ôl cyrraedd pob lleoliad, bydd y stiwdio radio ‘pop up’ yn darlledu’n fyw am gyfnod, a bydd Tara a Kris yn sgwrsio gyda rhai o gymeriadau’r ardal am brofiadau dwys ac ysgafn sydd wedi cael effaith ar eu bywydau – o achub bywyd i ddelio gyda straen arholiadau, ac o fyw gydag anghenion ychwanegol i ddygymod gyda hunanladdiad. Bydd cyfle hefyd i glywed hoff ganeuon y gwesteion.