Cyfres am ddau anghenfil bach hoffus o'r enw Sblij a Sbloj, yn eu hymgyrch i ddarganfod llythrennau cudd o'u cwmpas, mewn lleoliadau o ddydd i ddydd!
Digon o hwyl, hafoc a llond y lle o giamocs
Bydd y ddau’n mynd ati wedyn i ddysgu sut i ffurfio llythyren y dydd, gyda’r deunydd crai amrywiol sydd wrth law – gyda digon o hwyl, hafoc a llond y lle o giamocs wrth gwrs!