Mae Stad yn gyfres ddrama newydd sy’n dilyn ambell i wyneb cyfarwydd o’r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad, gan gyflwyno cymeriadau newydd hefyd.
Pymtheg mlynedd yn ôl...
Pymtheg mlynedd yn ôl, daeth Tipyn o Stad i ben gyda Heather Gurkha (Jennifer Jones) yn cael ei saethu y tu allan i glwb nos ei chariad, Ed Lovell (Bryn Fôn). Mae’r gynulleidfa wedi aros yn hir i gael gwybod beth ddigwyddodd wedyn.
Tybed be ydi hanes teulu’r Gurkhas? Beth ddigwyddodd i Ed Lovell ar ôl y noson dyngedfennol honno? Pa drafferthion mae trigolion Maes Menai yn wynebu heddiw?