Stadiymau’r Byd gyda Jason Mohammad

S4C | TG4 | LIC China | JTV Korea | 3 x 60'

Taith o gwmpas rhai o stadiymau enwocaf a mwyaf eiconig y byd.

Mae 'Stadiymau'r Byd' yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol arloesol rhwng S4C, y darlledwr Gwyddeleg TG4, a'r cwmnïau cynhyrchu Cwmni Da a Loosehorse, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan LIC China, Jeonju Television (JTV) ac Asiantaeth Cyfathrebu Corea (KCA). Mae'r prosiect hefyd wedi ei gefnogi gan Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru.

O'r Stadiwm Olympaidd yn Seoul i Stadiwm Azteca yn Ninas Mecsico...

Mae’r gyfres yn ymweld â rhai o stadiymau enwocaf y byd, gan gynnwys Stadiwm y Bird’s Nest yn Beijing, y Stadiwm Olympaidd yn Seoul, Stadiwm Azteca yn Ninas Mecsico ac Anfield yn Lerpwl.

Mae gan bob stadiwm gymeriad a hunaniaeth ei hun, ac yn y gyfres hon mae’r gwylwyr yn ddysgu am eu hanes, eu pensaerniaeth a’u hawyrgylch unigryw.

Mae’r fersiwn Gymraeg i S4C, Jason Mohammad: Stadiymau’r Byd, yn cael ei chyflwyno gan Jason Mohammad, cyflwynydd BBC Final Score a Pen/Campwyr, tra bod y fersiwn yn y Gwyddeleg ar TG4, Goirt Órga, yn cael ei chyflwyno gan Dara Ó Cinnéide, cyn seren y byd pêl-droed Gwyddelig.