Teulu, Dad a Fi

S4C | 3 x 60' |

Cyfres dwymgalon yn olrhain hanes teulu Wayne a Connagh Howard yng Nghymru, Iwerddon a Jamaica. 

Mae Teulu, Dad a Fi yn stori am bobl oedd yn chwilio am fywyd gwell - O Jamaica i'r 'Famwlad' ac o Iwerddon i Gymru. Yn y gyfres emosiynol a bersonol yma, byddwn yn dilyn Wayne a Connagh i ddysgu mwy am hanes eu teulu.

Connagh Howard wearing a life jacket on a boatplay video

Tad a mab yn olrhain hanes eu teulu...

Mae’r pâr yn cychwyn ar eu taith yn Southampton a Chaerdydd, cyn fynd i Iwerddon a Jamaica. Gan weithio gydag arbenigwyr achyddol, haneswyr ac archifdai yng Nghaerdydd, Swydd Cork a Kingston, bydd hynny’n rhoi cyd-destun i’r cyfnod gwahanol ym mywydau cyndeidiau Wayne a Connagh.