Yr Academi Felys

S4C | 2 Gyfres | 6 x 30' |

Gyda'i fusnes cacennau a siocled yn ffynnu mae Richard Holt yn edrych am brentisiaid dawnus i ymuno ag ef yn ei Academi Felys.

Cawn ddilyn chwech o ddarpar-gogyddion wrth iddynt wynebu llu o heriau pobi arallfydol gan Richard. Mae e hefyd yn rhannu rhai o'r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio ym mwytai seren Michelin.Meddai Richard: “Rwy’n ysu i ddod o hyd i dalent newydd, rhywun â thalent amrwd sy'n llawn dychymyg a photensial. Dwi'm yn foi sy'n licio neud pethau yn y dull traddodiadol. Felly, dwi 'di dod fyny efo cystadleuaeth rili uchelgeisiol: sialensiau melys arbennig neith brofi'r cystadleuwyr i'r eitha’!”

Gyda’r hudolus Melin Llynon yn gefnlen...

Gyda’r hudolus Melin Llynon yn gefnlen, bydd y chwech yn wynebu pob math o heriau creadigol o greu patisseries unigryw i flasau newydd o Mônuts (donuts arbennig o Ynys Môn!) – ond dim ond un fydd yn cael hawlio teitl Yr Academi Felys.

Yn ystod y gyfres bydd cyfle i weld Richard yn dangos ei brofiad eang a dawn coginio anhygoel wrth iddo osod y sialensiau i’r cystadleuwyr a chreu patisseries amrywiol ei hun – gan gynnwys un sydd wedi cael ei ysbrydoli gan hanes Land Rover ar Ynys Môn!