Ein Cwmni

Cynnwys Da
Pobol Da
Cwmni Da

Dyma’r bobl sydd berchen Cwmni Da.

Cwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu yw Cwmni Da. Mae hyn yn gyson ag ethos y cwmni o gyd-ysgwyddo cyfrifoldeb a chyfuno cryfderau er lles y gweithlu, yr economi leol a’r gymuned ehangach.

Caiff cyfranddaliadau’r cwmni eu dal ar ran y gweithlu mewn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Cyflogai sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolwyr. Rôl yr Ymddiriedolwyr – sy’n cynnwys aelod o staff Cwmni Da – yw cadw golwg ar waith y cwmni a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr gan warchod buddiannau’r gweithlu. Mae’r Ymddiriedolaeth yn sicrhau bod gan y gweithlu ran uniongyrchol a llais yn natblygiad y cwmni.

Mae sefydlu Ymddiriedolaeth Gweithwyr yn ddatblygiad naturiol i Cwmni Da, gan ein bod yn gwbl grediniol fod y gweithlu yn rhan allweddol o’r busnes. Mae pawb yn teimlo perchnogaeth dros y cwmni, sy’n golygu ein bod yn cynnig gwerth ychwanegol i’n cwsmeriaid.

Mae bod yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu yn sicrhau bod y cwmni yn aros yn annibynnol ac yn nwylo’r rhai sydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ei lwyddiant. Mae’n bosib i’r cyflogai ymelwa’n ariannol pan fydd elw i’w rannu.

Mae’r model busnes hwn yn torri tir newydd yn y diwydiant cyfryngol ac rydym yn hyderus y bydd y llwybr arloesol yma’n mynd a Cwmni Da o nerth i nerth.

Hunaniaeth Gymreig

Mae Cwmni Da yn bodoli i gynnig cynyrchiadau o safon byd-eang o’n canolfan yng Nghaernarfon, gogledd Cymru. Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n hunaniaeth a dyma yw iaith ein gweithle. Credwn fod y Cymry yn haeddu cyfrwng sy’n eu gwasanaethu yn eu hiaith eu hunain.

01

Gweledigaeth Rhyngwladol

Rydym hefyd yn edrych yn ehangach ac yn falch o’n hanes o gyd-gynyrchiadau rhyngwladol. Rydym yn gweithio’n dda gyda phartneriaid ar draws y byd ac wedi gwneud digon o ffrindiau o lawer o wledydd. Rydym bob amser yn croesawu partneriaid cynhyrchu newydd a syniadau newydd er mwyn dangos ein cynnwys i’r byd.

02

Cartref Cyfartaledd

Mae Cwmni Da yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn credu mewn amgylchedd gwaith teg ac agored lle mae pob person yn cael ei drin fel unigolyn. Mae cydraddoldeb, parch a gofal am ein gweithlu yn flaenoriaeth.

03

Cyfarwyddwyr

Pedwar cyfarwyddwr sy’n rheoli’r cwmni ac mae nhw yn atebol i’r Ymddiriedolaeth. Llion Iwan yw’r Rheolwr Gyfarwyddwr, a Bethan Griffiths yw’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Phil Williams  sy’n cwblhau’r bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

Bethan Griffiths

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Llion Iwan

Rheolwr Gyfarwyddwr

Phil Williams

Cyfarwyddwr Anweithredol

Dysgu mwy

Amdanom Ni

Mwy

Ein Heffaith

Mwy

Ymunwch â Ni

Mwy