Ein Heffaith

Mae Cwmni Da wedi bod yn gyfrannwr amlwg i’r diwylliant a’r economi leol ers dros chwarter
canrif.

Mae cyfraniad Cwmni Da i’r ardal leol, i Gaernarfon, Gwynedd a Chymru wedi bod yn arwyddocaol ers sefydlu’r cwmni ym 1997. Ers sefydlu’r cwmni mae ein gweithlu wedi gwirfoddoli yn eu cymunedau, wedi codi arian i lawer o elusennau ac wedi chwarae rhan hanfodol mewn chwaraeon a diwylliant lleol.

Ers symud i’n cartref yng nghanol Caernarfon, mae gweithlu Cwmni Da wedi cyfrannu’n ddyddiol at fywyd diwylliannol ac economaidd y dref, gan sicrhau bod gan y dref gymuned fywiog i’w mwynhau trwy’r flwyddyn.

Yr Amgylchedd

Mae Cwmni Da yn blaenoriaethu gofal am yr amgylchedd yn ei holl weithgareddau. Mae ein cynyrchiadau yn dilyn gweithdrefn safonol y diwydiant, ALBERT sy’n lleihau effaith amgylcheddol ein gwaith ac yn ein galluogi i wrthbwyso ôl troed carbon pob cynhyrchiad.

Mae ein swyddfeydd a’n stiwdio yn Y Goleuad yn gweithredu’n llawn ar drydan gwyrdd 100% ac rydym yn cyflwyno mesurau yn gyson i leihau ein heffaith amgylcheddol.

Rydym yn annog cludiant llesol ac yn gweithredu’r cynllun ‘Beicio i’r Gwaith’ i gefnogi staff sy’n dewis cymudo ar y llwybrau beicio ardderchog gerllaw. Mae gan Goleuad ddwy ystafell gawod ar gael i’r staff ddefnyddio.

Wedi’i sefydlu yn 2011, mae ALBERT yn cefnogi’r diwydiant Ffilm a Theledu byd-eang i leihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu ac i greu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Amcanion

1. Ysbrydoli: grymuso’r diwydiant i greu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy

2. Adfer: galluogi’r diwydiant i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’r amgylchedd tra’n mynd ati i ddileu gwastraff ac allyriadau carbon o gynhyrchu.

Darganfod Mwy

Cwmni Da staff members outside the Cwmni Da office in Caernarfon

Amdanom Ni

Mwy

Ein Cwmni

Mwy

Ymunwch â Ni

Mwy