Gweinyddydd Hawliau a Chytundebau dan Hyfforddiant

Gweinyddydd Hawliau a Chytundebau dan Hyfforddiant

Cyfle i ymuno a Thîm Gweinyddol Cwmni Da yn y rôl hanfodol hon. Rydym yn edrych am berson cydwybodol, hynod o drefnus gyda sgiliau gweinyddu a chyfathrebu cryf. Does dim angen profiad blaenorol a byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn I’r swydd. Swydd llawn amser wedi leoli yng Nghaernarfon.

Swydd ddisgrifiad:

Mae gwaith arferol yn cynnwys derbyn hyfforddiant i allu:

·delio â phersonnel oddi fewn a thu allan i’r cwmni i drafod gofynion hawliau/clirio rhaglenni;

·cynnig cefnogaeth weinyddol benodol ar gyfer yr adran gweinyddu hawliau;

·sicrhau caniatad darlledu ar gyfer cerddoriaeth, lluniau, archif ac unrhyw ddeunydd 3ydd parti a ddefnyddir yng nghynyrchiadau’r cwmni;

·cyflenwi’r gwaith papur angenrheidiol i’r darlledwyr a phob cwmni perthnasol o fewn amserlen benodol;

·cynnig cymorth parthed hawlfreintiau i bersonnel y cwmni yn ystod y broses gynhyrchu;

 

Sgiliau a rhinweddau delfrydol:

Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol cryf gan cynnwys Word, Excel ayyb

Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol da yn y Gymraeg a’r Saesneg

Person cydwybodol, trefnus a manwl, gyda’r gallu i weithio’n dda yn annibynnol ac yn rhan o dîm.

 

Telerau:

Cyflog – £21,000 – £24,000 yn unol â phrofiad

Oriau gweithio – 9 tan 5, 5 diwrnod yr wythnos.

Gwyliau – 25 diwrnod + Gwyliau Banc yn cynnwys Dydd Gwyl Dewi.

 

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn ddydd Llun Awst 12fed 2024 at post@cwmnida.tv.

Mae Cwmni Da yn gyflogwr Cyfle Cyfartal, wedi ymrwymo i greu diwylliant cwmni amrywiol a chynhwysol.

(This is an advertisement for an administrative role where the ability to communicate effectively through the medium of Welsh is essential.

Cyflog

£21,000 - £24,000

Dyddiad Cau

12/08/2024

close modal

Ymgeisiwch

Mae "*" yn nodi maes angenrheidiol

Enw*
Accepted file types: docx, pdf, doc, Max. file size: 512 MB.
Ffeiliau a dderbynnir: docx, pdf, doc
This field is for validation purposes and should be left unchanged.