19/12/23

Gwahodd cyn-streicwyr i première ffilm i nodi 20 mlynedd ers anghydfod hanesyddol

Mae’r ffilm drawiadol rymus, Y Lein: Streic Friction Dynamics, wedi’i gwneud gan Dïon Wyn, ŵyr un o’r streicwyr, Raymond Roberts, a oedd yn benderfynol na ddylid byth anghofio’r “anghyfiawnder hanesyddol”.
Yn sgil y streic bu gweithwyr yn picedu ffatri Friction Dynamics ar gyrion Caernarfon am bron i 1,000 o ddiwrnodau rhwng Ebrill 2001 a Rhagfyr 2003 ond, er iddyn nhw ennill achos mewn tribiwnlys diwydiannol, ni chawsant iawndal erioed.

Yn ôl Dïon, dylunydd graffig a gwneuthurwr ffilmiau sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni cynhyrchu teledu Cwmni Da a gomisiynodd y rhaglen ddogfen, mae’n dal i geisio dod o hyd i nifer o gydweithwyr ei daid fel y gall eu gwahodd i’r dangosiad cyntaf o’r ffilm awr o hyd.

Mae’r première yn cael ei gynnal yn Galeri yng Nghaernarfon ar Ragfyr 19, union 20 mlynedd i’r diwrnod y daeth y streic i ben.

Dechreuodd yr anghydfod pan aeth mwy nag 80 o weithwyr yn y ffatri, oedd yn cynhyrchu darnau brêc a chydrannau arbenigol ar gyfer ceir a cherbydau, ar streic i brotestio ar newidiadau i’w cyflog a’u hamodau gwaith ar ôl i’r dyn busnes o America Craig Smith gymryd yr awenau.

Ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith, dywedwyd wrth y gweithwyr, pob un yn aelod o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (T&GWU), i “gymryd gwyliau” a bron i wyth wythnos yn ddiweddarach cawsant eu diswyddo.
Cafodd Raymond, 78 oed, sy’n byw yng Nghaernarfon, yr anrhydedd o dynnu baner y Ddraig Goch i lawr a oedd wedi chwifio’n falch y tu allan i safle’r ffatri drwy gydol yr anghydfod chwerw.

Wrth gofio digwyddiadau dau ddegawd yn ôl, dywedodd: “Roedd yn gyfnod llawn straen, nid yn unig i ni fel gweithwyr ond i’n teuluoedd hefyd, ond roedd yn rhaid i ni wneud safiad. Ni allai’r sefyllfa yr oeddem ynddi yn y ffatri barhau. Roedd yr amser wedi dod, digon oedd digon, felly aethom ar streic i ddangos i Craig Smith ein bod o ddifri.
“Er ein bod ni ar ein colled yn y diwedd, roedd cefnogaeth y gymuned yn golygu ein bod ni’n gallu cadw cefnau’n gilydd ac roedd yn rhaid i ni wneud yr hyn wnaethon ni.”

“Cawsom lawer o gefnogaeth ariannol gan y gymuned ac undebau eraill tra rhoddodd ffermwr lleol garafán i ni, roeddem yn ei galw y ‘T&G Hilton’, oedd yn rhywle i ni gysgodi mewn tywydd garw.

“Roedd bwrdd y tu allan i’r giât yn nodi hyd yr anghydfod mewn wythnosau ac mi fyddai gyrwyr oedd yn pasio heibio yn dangos eu cefnogaeth ac mi fyddem ni’n codi llaw yn ôl arnyn nhw.

“Byddai’r heddlu, gyrwyr ambiwlans a diffoddwyr tân yn troi eu goleuadau glas ac weithiau eu seirens ymlaen wrth iddyn nhw yrru heibio.

“Roedd Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol yn dda iawn, roedden nhw bron yn ein cadw ni i fynd. Roedd Mr Smith yn meddwl y gallai ein llwgu ni nôl i’r gwaith. Ond roedd y rhan fwyaf ohonom yn ein 50au a doedd gynnon ni ddim forgeisi mawr,” meddai Raymond.

Ymunodd Raymond â staff y ffatri yn 1968 pan oedd y safle’n cael ei adnabod fel Ferodo gan gyflogi cymaint â 2,000 o weithwyr. Roedd y ffatri, sydd wedi cau ers hynny ac sydd bellach wedi dirywio’n adfail, yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal.

“Dw i’n ddyn o Gaernarfon wedi fy ngeni a’m magu yn Twthil ac ar ôl gadael yr ysgol mi fûm i’n gweithio ar ffermydd ac mewn ffatri arall yn y dref. Mi fûm i yno ers dros 30 mlynedd ac mi wnes i ffrindiau am oes.
“Yn anffodus mae rhai o’r ffrindiau hynny wedi marw, ond mae rhai ohonym yn dal i gyfarfod o bryd i’w gilydd,” meddai.

Dywedodd Raymond fod yr anghydfod wedi dechrau pan gymerodd Craig Smith y ffatri drosodd yn 1997 a dechrau gwneud newidiadau i delerau ac amodau’r gweithwyr.
“Chawson ni ddim codiad cyflog am bedair blynedd ac yn y 18 mis cyn y streic fe geisiodd o newid ein telerau ac amodau.

“Beth oedd o’n ceisio’i wneud oedd ein cael ni i gerdded allan, ac roedden ni’n gwybod unwaith y bydden ni’n gwneud hynny y byddem yn cael ein diswyddo, a dyna fyddai diwedd y stori. Fe wnaethon ni gynnal pleidlais trwy ddilyn y drefn gyfreithiol a phleidleisio dros weithredu diwydiannol. Mi wnaethon ni benderfynu y bydden ni’n streicio am un wythnos, ac yna gweithio am wythnos, a mynd ymlaen am yn ail fel yna.

“Felly yr wythnos gyntaf aethon ni allan ar streic. Yna roedd yr wythnos wedi hynny yn cychwyn efo Gŵyl y Banc ac ar y bore dydd Mawrth pan wnaethon ni drio mynd yn ôl roedd rheolwr y ffatri wrth y gatiau yn ein rhoi ar wyliau.
“Yr wythnos ganlynol roedden ni ar streic. Bob yn ail ddydd Iau bydden ni’n cael llythyr yn dweud ein bod ni ar wyliau yr wythnos ganlynol. Y pwynt ydi hyn, ches i ddim fy nhalu erioed am y gwyliau hyn roeddwn i fod i’w cymryd,” dywedodd Raymond.

Ar ôl i’r streic ddod i ben, daeth Raymond o hyd i waith fel rheolwr safle yn Ystâd Ddiwydiannol Peblig a bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach mae’n dal i weithio yno’n llawn amser.

Fel bachgen ysgol, mi fyddai Dïon Wyn yn aml yn ymuno â’i daid ar y llinell biced ac roedd am wneud y ffilm i dalu teyrnged i Raymond a’i gydweithwyr am eu dyfalbarhad wrth sefyll dros yr hyn yr oeddent yn credu ynddo.
“Fel plant mi wnes i a fy mrawd sefyll ar y llinell biced efo nhw ac wrth i ni dyfu’n hŷn, roedden ni’n deall beth oedd hynny’n ei olygu mewn gwirionedd.

“Dw i’n cofio ar y pryd teimlo bod pres ychydig yn dynn ond wrth dyfu’n hŷn, dechrau gweithio fy hun, ymuno efo undebau a phethau felly, mae rhywun yn dod i ddeall yr aberth wnaethon nhw ac am gyfnod mor hir hefyd. Mae’n anghyfiawnder hanesyddol na ddylid byth ei anghofio.

“Rwyf wedi gallu cysylltu â chryn dipyn o’r cyn-streicwyr ond dydw i ddim wedi gallu dod o hyd i lawer ac rwy’n awyddus i’w gwahodd i’r dangosiad cyntaf oherwydd dyma eu stori,” meddai.

Yn ogystal â Raymond mae’r ffilm yn cynnwys atgofion o’r streic gan ei gydweithwyr John Davis a Gwil Williams a’r stiward llawr gwaith Gerald Parry. Hefyd yn cymryd rhan mae’r cyn-AS Dafydd Wigley a John Hendy KC, bargyfreithiwr oedd yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth.

Enillodd fersiwn fyrrach o ffilm Dïon, sydd wedi graddio o ysgol ffilm Prifysgol Bangor, wobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol y llynedd.

Nid y rhaglen ddogfen yw’r unig deyrnged i’r gweithwyr gan Dïon. Fel aelod o’r band indie, The Routines, mae Dïon hefyd wedi ysgrifennu a recordio cân ‘Ar Draws y Lein’ fydd yn cael ei rhyddhau ar sawl safle ffrydio cerddoriaeth i gyd-fynd â dangosiad cyntaf y ffilm.

Dywedodd Llion Iwan, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Da: “Mae hon yn stori bwysig yn hanes ardal Caernarfon ond hefyd o ran cysylltiadau diwydiannol ehangach.

Caeodd y ffatri yn llwyr yn 2008 ac mae wedi parhau i fod yn adfail byth ers hynny fel cofeb i aberth Raymond a’i gydweithwyr dewr a safodd yn gadarn ar y llinell biced am bron i dair blynedd.”

Newyddion

19/02/24

Cwmni Da yw un o’r llefydd gorau i weithio yn y DU

Mae cwmni cynhyrchu teledu arloesol o ogledd Cymru wedi cael pedwar achos i ddathlu yn ddiweddar - gan gynnwys cael ei ganmol fel un o'r llefydd gorau i weithio yn y DU. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/01/24

Castio plant ar gyfer STAD

Mae Cwmni Da a Triongl yn chwilio am dri phlentyn ar gyfer y gyfres newydd o Stad, dechrau ffilmio ym mis Mawrth 2024....

Darllen Mwy

Newyddion

09/01/24

Cwmni Da yn derbyn buddsoddiad gan Media Cymru ar gyfer ymchwil cynhyrchu rhithiol

Mae Cwmni Da yn un o 24 o fusnesau a gweithwyr llawrydd sydd wedi derbyn y buddsoddiad yma er mwyn ymchwilio amryw o brosiectau arloesol sydd wedi’u cynllunio i roi hwb i sector y cyfryngau yng Nghymr...

Darllen Mwy

Newyddion

07/12/23

Castio ar gyfer y Deian a Loli Newydd

Mae Cwmni Da yn chwilio am ddau blentyn rhwng 9-12 oed i gymryd rhan Deian a Loli yn y gyfres newydd, fydd yn dechrau ffilmio ym mis Mehefin 2024....

Darllen Mwy