Cwmni Da yw ein henw, ac mae hynny am reswm da.
Rydym yn gyflogwr Cyfleoedd Cyfartal ac ni fyddwn yn gwahaniaethu wrth benodi ar sail oedran, anabledd, rhyw, ail-aseinio rhyw, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy’n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, neu am fod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Rydym yn gweithredu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac mae sawl aelod o’n gweithlu wedi dysgu. Rydym wedi darganfod mai gweithio efo ni yw un o’r ffyrdd gorau y gall rhywun ddod yn rhugl yn y Gymraeg.
Rydym yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn deg.