30/04/26

Cwmni Da yn ymuno â Indielabs 2026 

Mae Cwmni Da wedi’i enwi yn un o 13 cwmni cynhyrchu annibynnol a ddewiswyd ar gyfer ei charfan Content Futures 2026, yn dilyn lansiad y rhaglen yn Llundain.  Bydd y rhaglen newydd sbon yn nodi datblygiad mawr o fenter gefnogi hirsefydlog Indielab i gryfhau’r sector yn y DU, ac mae wedi’i dylunio i gynnig cyfleoedd sut i wynebu amgylchedd marchnad newydd. 

Mae’r rhaglen dros dri mis yn dod â charfan o gynhyrchwyr annibynnol sefydledig at ei gilydd ar adeg dyngedfennol i sector sgrin y DU, gan eu cefnogi i fireinio strategaeth, nodi cyfleoedd masnachol newydd a gwneud penderfyniadau hyderus mewn marchnad sy’n newid yn strwythurol. 

Dywedodd Prif Weithredwr Cwmni Da, Bethan Griffiths: Rydym yn falch iawn i gyrraedd carfan Indielabs eleni.  Mae’r sector yn wynebu heriau gwirioneddol, ond lle mae her, mae cyfle – ac mae Cwmni Da yn barod i’w fachu. Rydym yn ymrwymedig i esblygu’r ffordd rydym yn gweithio, cryfhau ein partneriaethau presennol, a llunio’r hyn sydd i ddod yn y farchnad newydd hon.” 

Ychwanegodd Olivia Simove, Cyfarwyddwr Cynnwys Cwmni Da; “Mae hwn yn gyfle mor amserol i ddysgu gan y goreuon yn y busnes. Mae’r panelwyr a’r siaradwyr y mae Indielabs yn eu cynnig, ynghyd â gweddill y cwmniau sydd yn y garfan yn wych ac yn cynnig cyfleodd euraidd. Mewn diwydiant sy’n aml yn gallu teimlo’n unig ac yn gystadleuol, mae cwmnïau ein carfan ni yn gynnes, agored ac yn awyddus i fod o gymorth i’w gilydd mewn ffordd sy’n wirioneddol adnewyddol.” 

Mae carfan 2026 yn cynnwys: 

Cwmni Da, 14th Floor Productions, Beezr, Chalk Productions, Freedom Scripted, Happenstance Films, Hello Dolly, Raucous Pictures, Renaissance Studios, Saffron Cherry Productions, Telltale, Unified Productions a Vibrant Television. 

Dywedodd Victoria Powell, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Indielab: 

“Mae’r farchnad wedi newid — nid dros dro, ond yn strwythurol. Yr hyn rydym yn ei weld gyda charfan eleni yw grŵp o gwmnïau cryf, sefydledig sy’n ailasesu sut maent yn gweithredu, ble maent yn canolbwyntio a sut maent yn creu gwerth. Mae Content Futures wedi’i gynllunio i roi’r gofod, y mewnwelediad a’r fframweithiau iddynt wneud y penderfyniadau hynny gydag eglurder a hyder. Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector yn real — ond felly hefyd y cyfle. Y cwmnïau a fydd yn llwyddo yw’r rhai sy’n glir am bwy ydynt, pwy yw eu cynulleidfa, a sut maent yn parhau i dyfu, cyrraedd a’u plesio. Mae Content Futures yn ymwneud â helpu y garfan i wneud y penderfyniadau hynny gyda hyder.” 

Newyddion

04/09/25

Enwebiadau BAFTA Cymru i Gynyrchiadau Cwmni Da

Mae Cwmni da yn dathlu'r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/05/25

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair

Bydd actor a chyfarwyddwr arobryn yn arwain canolfan ddrama newydd mewn cwmni cynhyrchu teledu yng ngogledd Cymru....

Darllen Mwy
An external photograph of the Cwmni Da studio

Newyddion

07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy