
Mae Iwan a Aimee yn teithio o dyllau tywyll i blastai llawn hanes, yn cysgu mewn llefydd sydd â straeon mor dywyll â’r nos eu hunain. O glywed synau annisgwyl i weld drychau’n symud, maen nhw’n wynebu eu hofnau- a’u gilydd- wrth geisio darganfod beth sy’n real a beth sy’n jyst myth.
A fyddan nhw’n goroesi’r nos?
Wrth i’r oriau fach gyrraedd, mae tensiwn yn cynyddu a’r tîm yn dechrau cwestiynu’r hyn maen nhw’n ei weld- a’r hyn maen nhw’n ei gredu. Gyda chamerâu’n rholio drwy’r nos a’r tywyllwch yn cau o’u cwmpas, mae un cwestiwn yn aros: ydy rhywbeth yno’n gwylio nhw yn ôl?




