Dyw Deian a Loli ddim yn angylion – o bell ffordd! – ac maen nhw’n ffraeo fel cath a chi yn dragywydd, gan yrru eu rhieni o’u coeau. Un funud mi fyddan nhw’n elynion pennaf, a’r funud nesaf mi fyddan nhw’n ffrindiau gorau. Does dim dal.
Ond mae gan Deian a Loli gyfrinach...
Ond mae gan Deian a Loli gyfrinach – mae ganddyn nhw bwerau hud nad oes neb arall yn y byd i gyd yn grwn yn gwybod amdanyn nhw. Maen nhw’n medru gwneud eu hunain yn fychan fach, dim ond wrth roi eu bawd ar eu trwyn a chwifio’u bysedd (sy’n medru bod yn dric handi iawn os ydach chi’n chwarae cuddio!) ond yn well na dim, os daw Deian a Loli at ei gilydd, a dweud y geiriau hud – ‘RIBIDIRIEW!’ – mae rhywbeth anhygoel yn digwydd. Ar amrantiad, mae eu rhieni yn rhewi i’r unfan!