Eryri : Pobol y Parc

S4C | 4x60' |

Cyfres sy'n dilyn blwyddyn ym mywyd Parc Cenedlaethol Eryri trwy lygaid y bobl sy'n byw yno a'r rhai sy'n ei warchod.

Parc Cenedlaethol Eryri. Yr hynaf o’n holl Barciau Cenedlaethol a lle sy’n glytwaith o ardaloedd a thirweddau; pob un hefo’i hanes ei hun. Mae’r golygfeydd trawiadol yn serennu fel miloedd o ddelweddau cardiau post. Ond mae’r Parc yn fwy na dim ond tirlun hardd a chyfleoedd i dynnu lluniau. Cyn bwysiced â’r tir ydy’r bobol sy’n byw arno, pob un â’i stori a phob un yn rhan o gymuned Eryri.

Ers deunaw mis mae camerau Cwmni Da wedi bod yn dilyn staff a thrigolion y Parc...

Mae eleni yn nodi 70 mlynedd ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri. Ers deunaw mis mae camerau Cwmni Da wedi bod yn dilyn staff a thrigolion y Parc er mwyn cynhyrchu cyfres deledu i ddathlu’r penblwydd arbennig. Lleisiau a straeon y bobl sy’n byw, gweithio ac hamddena yn Eryri sydd i’w clywed yn y gyfres yma a bydd lle i sawl barn a safbwynt wrth i’r parc ddathlu’r presennol, ac edrych ymlaen i’r dyfodol yn dilyn cyfnod heriol tu hwnt.

Wedi ei ffilmio ym mhob tymor a thywydd, yn erbyn cefnlen o ddelweddau dramatig a chofiadwy, cawn weld Eryri a’i phobol mewn goleuni newydd dadlennol. Dyma Bobol y Parc.