Llond Bol o Japan

S4C | 3 x 60' |

Chris sy'n cyfarfod â rhai o brif gogyddion y wlad a phobl o Gymru sydd wedi syrthio mewn cariad â Japan.

Dywedodd Chris ‘Flamebaster’ Roberts: “Heblaw am ambell frathiad o sushi neu bowlen o ramen ‘nôl adra, dwi ddim rili ‘di cael cyfle i fwyta bwyd y wlad ‘ma, ond ar y daith yma, ma’ hynny’n mynd i newid.

“Ma’ diwylliant bwyd Japan yn hollol unigryw, a dwi isio bwyta fo i gyd.”

Ychwanegodd Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Mae cael profi diwylliant bwyd a diod Japan drwy lygaid Chris – sydd wedi bod eisiau ymweld â’r wlad ar hyd ei oes – wir yn bleser o’r mwyaf.  Mae gallu gwireddu breuddwyd i Chris a dod â rhaglen mor gyfoethog o ran diwylliant a lliw yn destun balchder i ni yn S4C.”