
Mae'r cogydd tanbaid, Chris 'Flamebaster' Roberts ar daith flasus fythgofiadwy yn coginio a bwyta'i ffordd o amgylch Sbaen. Mae ei siwrnai yn cychwyn yn Galicia, rhanbarth o Sbaen sydd yn cael ei gydnabod am fwyd môr a sdêcs gorau'r wlad...
Mae antur fwyd Sbaenaidd Chris 'Flamebaster' Roberts yn parhau ar Ynys Mallorca...
Yn Mallorca, mae Chris yn cael cwmni’r Chef seren Michelin o Sir Fôn, Tomos Parry, a’r actor Elen Rhys. O fwytai traddodiadol rhad i rai ecsglwsif, bydd Chris yn coginio a blasu’r gorau o fwyd yr ynys.
Yn rhaglen olaf y gyfres, mae Chris yn mentro i Barcelona yng Nhatalonia i ddarganfod diwylliant bwyd bywiog y ddinas yng nghwmni’r cerddor Cerys Matthews. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy.