Mike Bubbins – Un Mewn Miliwn

S4C | 3 x 60' |

Mike Bubbins yn herio’i hun i ddysgu Cymraeg wrth iddo anelu i fod yn ‘un mewn miliwn’

Ym Mis Medi 2024 derbyniodd y digrifwr Mike Bubbins her gan ei ferch i ddysgu Cymraeg mewn blwyddyn. Mae'r gyfres yn dilyn ymdrechion Mike i ddysgu'r iaith, wrth iddo gyfarfod pobl eraill sy'n dysgu'r Gymraeg.

“Hoffwn i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050..."

“Hoffwn i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Dwi’n meddwl bod hynny’n realistig, traean o’r boblogaeth.  Dwi eisiau bod yn un mewn miliwn, dyna’r cynllun.”

Bydd y gyfres yn dilyn Mike fis wrth fis wrth iddo gofrestru mewn dosbarth Cymraeg, mynd i’r afael a threigladau, a cheisio defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Realiti’r her yw bod Mike yng nghanol cyfnod prysur iawn wrth iddo baratoi at gyfres newydd o ‘Mammoth’. Mae mynd i wersi yn her, ac mae angen syniadau ac ysbrydoliaeth i ddysgu Cymraeg mewn ffyrdd eraill.

Pa mor llwyddiannus fydd o yn ei ymdrech i fod yn Un Mewn Miliwn?