Cyfres ddogfen antur tair rhan yn dilyn taith y cyflwynydd Gareth Jones wrth iddo herio'i hun i nofio 60km i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
"Dydw i ddim yn siŵr os alla'i wneud hyn, ond yr hyn dwi yn gwybod ydi nad ydi o erioed wedi'i wneud o'r blaen."
Bydd camerâu yn dilyn Gareth pob cam o’r ffordd mewn cyfres ddogfen arsylwadol (ob doc) wrth iddo wthio’i hun i’r eithaf gan nofio ar draws llynnoedd a chronfeydd dŵr o dde i ogledd Cymru mewn tair wythnos.
Dechreuodd Gareth, sydd yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Cymru ond bellach yn byw yn Llundain, nofio’n wyllt rhai blynyddoedd yn ôl gyda ffrindiau a sylwi ei fod yn “reit dda yn gwneud”. Ers hynny mae o wedi bod yn nofio mewn cronfa ddŵr lleol i gynyddu ei bellter.
“Mae am fod yn her enfawr ond dwi am roi’r cynnig gorau arni.” Meddai Gareth. “Am ffordd arbennig o ail-ddarganfod fy mamwlad yn archwilio straeon o gwmpas ac o dan y dŵr. Mi ddylai hyn wneud i’r gwylwyr ymgolli hefyd, drwy gyfuno technegau dogfennol clasurol â graffeg gyfrifiadurol arloesol sy’n datgelu’r byd isod a chofnodi fy nata biolegol wrth i mi nofio.”
“Dydw i ddim yn siŵr os alla’i wneud hyn, ond yr hyn dwi yn gwybod ydi nad ydi o erioed wedi’i wneud o’r blaen. Dwi’n gobeithio mai fi fydd y dyn a nofiodd ledled Cymru!”