
Mae'r gwyddonydd Bedwyr ab Ion Thomas yn ateb y math o gwestiynau mae plant yn dueddol o'u gofyn, ac yn egluro iddyn nhw, mewn arddull berthnasol, am y byd o'u cwmpas.
"Mae Bedwyr yn cyfathrebydd heb ei ail."
Fel yn y gyfres gynta’, un pwnc sydd i bob pennod, a’r pynciau hynny yn amrywio ar draws meysydd a disgyblaethau o bob math. Mae’r ymdriniaeth a’r dehongliad o’r pwnc dan sylw, ar y cyfan, yn arddel dynesiad wyddonol neu dechnolegol, ac yn adleisio cynnwys y meysydd STEM o fewn y Cwricwlwm Addysg i Gymru.