
Bydd Y Smyrffs yn ail gyflwyno wynebau cyfarwydd i'n sgrîn fel Smyrffen, Tada Smyrff doeth, ac hefyd y cymeriad dichellgar sydd yn hela'r Smyrffs, Craca Hyll. Bydd y rhain i gyd â lleisiau Cymraeg newydd yn dod â'r byd hudolus yn fyw.
Cafodd Y Smyrffs eu creu gan y cartwnydd o Wlad Belg Peyo yn 1958.
Ers hynny mae’r Smyrffs wedi bod yn ffenomen rhyngwladol am dros chwe degawd gan ddod yn fyw mewn llyfrau comig, cyfresi animeiddio, ffilmiau poblogaidd, ac atgofion plentyndod ar draws y byd. Gyda diolch i S4C, maen nhw nawr yn barod i swyno cenhedlaeth newydd o Gymry!