
Haul, eira, gwynt a glaw... mae’r tywydd yn rhan fawr o fywyd ein plant. Ond beth pe gallai plant reoli’r tywydd….. a hyd yn oed ei drechu?Gêm stiwdio gyffrous ar gyfer plant 7 i 10 oed. Breuddwyd pob plentyn ydy'r set - y maes chwarae perffaith: lliwgar, cyffrous a llawn heriau amrywiol sy'n gysylltiedig â'r tywydd. Mae'r cyflwynydd, Gareth Elis yn arwain tîm o bedwar dewr mewn cyfres o gemau yn erbyn y cloc. Yno i'w hannog mae dosbarth o blant sy'n creu llawer o sŵn wrth gefnogi OND, yno i'w rhwystro mae'r dihirod - Morys y Gwynt ac Ifan y Glaw….