
Drwy ddialog syml a chaneuon bachog, mae’r triawd hwyliog yn diddanu yn ogystal â dysgu ffeithiau syml am y Ddaear a phopeth sydd ganddi i'w gynnig.
Dewch i gyfarfod y Tralalas!
Mae nhw’n gwneud ymweliad â’r sw, i’r traeth, i ffair bleser ac yn mynd ar daith fws. Ond gair o rybudd, gall caneuon y Tralalas fod yn sownd yn eich pennau am amser maith!