
Mae Tŷ Ffit yn gyfres newydd sy'n rhoi cyfle unigryw i bump unigolyn i drawsnewid eu hiechyd corfforol a meddyliol dros gyfnod o ddeufis.

Cyfle i 5 unigolyn wella ansawdd eu bywydau a chael saib o straen bob dydd mewn lleoliad epig ar arfordir Sir Fôn.
Mae’r 5 lwcus, sydd â’r awch i newid eu bywyd er gwell ac awydd i garu eu hunain eto, yn aros mewn lleoliad epig ar arfodir Sir Fôn am 7 penwythnos i wella ansawdd eu bywydau a chael saib o straen bob dydd gan greu ffrindiau newydd am oes.
Lisa Gwilym sy’n cyflwyno a bydd Tîm Tŷ Ffit, sef 4 arbenigwr yn y maes iechyd, a 5 Mentor ysbrydoledig fydd gyda sgiliau gwahanol a stori unigryw eu hunain i’w rhannu, yno i gefnogi’r pump yn ystod eu cyfnod.