Y Cyfweliad

S4C | 4 x 30' |

Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The Assembly

Fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The Assembly lle mae grŵp o 30 o ymholwyr awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus heb unrhyw gyfyngiad.Mae fformat y sioe yn addasiad o'r gyfres Ffrengig Les Rencontres du Papotin, a grëwyd gan Kiosco TV a Quad Ten ac wedi’i ddosbarthu gan Can’t Stop Media, a lansiwyd yn 2022 ar France 2. Bellach mae’r fformat wedi’i ddarlledu mewn 13 gwlad ym mhob cwr o’r byd, yn cynnwys Awstralia, Sbaen, Brasil, Yr Iseldiroedd, Singapore a Norwy, gydag wyth gwlad arall yn cynnwys Cymru yn paratoi i ddarlledu eu fersiwn hwythau.

Bwriad y gyfres yw i roi platfform haeddiannol i’r gymuned niwro-wahanol – a hynny gyda chymorth arbenigwyr yn y maes i sicrhau diogelwch a pharch i bawb.

Ym mis Ebrill 2024 darlledwyd y fersiwn gyntaf yn y Deyrnas Unedig, lle gafodd yr actor Michael Sheen ei holi yn The Assembly (ar ffurf peilot gan y BBC). Yna yng ngwanwyn 2025, mewn cyfres ar ITV, tro’r actorion David Tennant a Danny Dyer, y gantores Jade Thirlwall a’r cyflwynydd a’r cyn bêl-droediwr Gary Lineker oedd hi i wynebu’r cwestiynau.

Dywedodd Siwan Haf, cynhyrchydd Y Cyfweliad “O fod wedi gwylio a mwynhau The Assembly, mae cael y cyfle i gynhyrchu’r fersiwn Gymraeg o’r fformat arbennig hon yn fraint.”

Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig S4C:

“Rwy’n hynod falch o fod wedi comisiynu Y Cyfweliad ar S4C. Mae’n sioe sgwrsio gwbwl unigryw, ac rwy’n wirioneddol angerddol amdani. Yn wahanol i lawer o sioeau sgwrsio eraill, nid yw’r gwesteion yno i hyrwyddo eu hunain a’u gwaith nac i wthio unrhyw agenda. Y gwir bleser yw naturioldeb yr eiliadau sy’n mynd o drafod profiadau hynod bersonol i sgwrsio am bynciau diflas bob dydd fel aros am y bws!

“Dyma gyfres sy’n gynhwysol ac yn ymwneud ag anabledd mewn modd real, doniol, a chwbl onest.”