Ymunwch â Ni

Byddwch yn rhan o
rywbeth arbennig

Hoffech chi weithio i un o gwmnïau cyfryngau mwyaf Cymru? Hoffech chi weithio yng nghanol Caernarfon ar lannau’r Fenai?

Mae’r holl gyfleoedd sydd ar gael ar y funud i’w gweld ar waelod y dudalen hon. Ond rydym bob amser yn awyddus i glywed gan unigolion talentog sydd yn chwilio am rôl ym maes y cyfryngau.

Cyfleoedd Presennol

Cyffredinol

Cyfarwyddwr Gweithredol

Rydym ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol llawn egni ac uniondeb. Mae hon yn swydd allweddol yn nhîm arwain Cwmni Da. Bydd yn helpu i gadw trefn, symleiddio prosesau, cefnogi’r tîm, a sicrhau bod y gwaith creadigol yn gallu disgleirio. Mae hwn yn gyfle i weithio mewn sefydliad sy’n llawn sbardun ac ysbryd tîm, agored, cydweithredol ac yn rhoi’r Gymraeg wrth galon bob dim.

I’w drafod

Darllen mwy

Cyffredinol

Cyfarwyddwr Cynnwys

Parod i arwain y gâd ym myd y cyfryngau Cymraeg? Mae Cwmni Da yn chwilio am arweinydd deinamig â chanddynt weledigaeth gref a chyffrous. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynnwys i ymuno â’n tîm yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai. Mae hon yn gyfle unigryw i yrru ac i lunio dyfodol un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf llwyddiannus Cymru.

I’w drafod.

Darllen mwy

Ein Diwylliant Gwaith.

Cwmni Da yw ein henw, ac mae hynny am reswm da.

Rydym yn gyflogwr Cyfleoedd Cyfartal ac ni fyddwn yn gwahaniaethu wrth benodi ar sail oedran, anabledd, rhyw, ail-aseinio rhyw, beichiogrwydd, mamolaeth, hil (sy’n cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol), cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, neu am fod rhywun yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Rydym yn gweithredu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac mae sawl aelod o’n gweithlu wedi dysgu. Rydym wedi darganfod mai gweithio efo ni yw un o’r ffyrdd gorau y gall rhywun ddod yn rhugl yn y Gymraeg.

Rydym yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn deg.

Pwy yw Cwmni Da?play video

Rydym bob amser eisiau clywed gan unigolion sy’n awyddus i ymuno â ni.

Anfon CV neu holi

quote image

Darganfod Mwy

Amdanom Ni

Mwy
Wayne and Connagh Howard on a beach looking at the camera

Ein Heffaith

Mwy

Ein Cwmni

Mwy