05/09/23

Sianel Carioci Noson Lawen.

Mae sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio ar safle YouTube Noson Lawen.

Bydd dewis o 20 o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru ar y sianel, clasuron fel Yma o Hyd, Anfonaf Angel, Strydoedd Aberstalwm a Calon Lân.

Fe fydd y grŵp gwerin Bwncath yn lansio’r sianel ym mhabell S4C ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Sul Awst 6ed am 14.00, gan ganu yn y bŵth carioci a pherfformio set acwstig.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd croeso i bawb ymweld â phabell S4C i ganu rhai o’u hoff ganeuon yn y bŵth.

Daw’r datblygiad newydd yma gan Cwmni Da, sy’n cynhyrchu Noson Lawen wedi i’r gyfres ddathlu ei phen-blwydd yn 40 y llynedd.

Noson Lawen yw’r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop, ac mae hi wedi cyrraedd carreg filltir arall eleni wrth ddathlu’r ffaith bod fideos ar ei sianel YouTube wedi’u gwylio 10 miliwn o weithiau.

Yn ôl Olwen Meredydd, Cynhyrchydd Noson Lawen: “Noson Lawen yw un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd ac roedden ni’n cael ceisiadau o hyd am eiriau i’r caneuon. Dyna oedd yr ysgogiad i greu’r sianel Carioci.

“‘Da ni’n gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy gyfrwng cân a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y dafarn neu hyd yn oed adre’ o flaen y drych!

“Bydd dewis o ugain cân ar y cychwyn ond y gobaith yw ychwanegu mwy; byddwn fell

Newyddion

04/09/25

Enwebiadau BAFTA Cymru i Gynyrchiadau Cwmni Da

Mae Cwmni da yn dathlu'r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/05/25

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair

Bydd actor a chyfarwyddwr arobryn yn arwain canolfan ddrama newydd mewn cwmni cynhyrchu teledu yng ngogledd Cymru....

Darllen Mwy
An external photograph of the Cwmni Da studio

Newyddion

07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy