03/10/23

All3media Clip Sales i gynrychioli catalog Cwmni Da

Mae’r casgliad yn cynnwys 1000au o oriau o gynnwys o’r 25 mlynedd diwethaf, o raglenni ffeithiol a dogfen i gyfresi adloniant ac allbwn chwaraeon.

Mae cyd-Bennaeth Hawliau a Pholisi All3Media, Dale Grayson a Kay Page, yn goruchwylio gwerthiant clipiau, gan weithio’n agos gyda chwsmeriaid i nodi cynnwys a llywio hawliau.

Wrth siarad cyn yr Wŷl, LA Footage Fest yr wythnos hon, y digwyddiad diwydiant sy’n dod â phrynwyr a gwerthwyr clipiau o bob rhan o’r byd at ei gilydd, dywedodd Kay Page: “Yn ogystal â darparu mynediad i filoedd o oriau o gynnwys All3Media trwy ein catalog gwerthu clipiau, rydym hefyd eisiau gweithio gyda, a chynrychioli, y cynhyrchwyr trydydd parti gorau oll. Rydym yn falch iawn felly i bartneru gyda Cwmni Da, mor fuan ar ôl lansio All3Media Clip Sales. Mae ganddyn nhw gatalog rhagorol, wedi’i adeiladu dros 25 mlynedd ac rydyn ni’n hyderus y bydd galw mawr am eu cynnwys.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, Llion Iwan: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag All3Media Clip Sales i arddangos ein llyfrgell o gynnwys i gynulleidfa ehangach o gynhyrchwyr ac ymchwilwyr. Mae gan Kay a Dale gymwysterau rhagorol yn y maes hwn ac edrychwn ymlaen at ein partneriaeth.”

Negydwyd y cytundeb cynrychiolaeth gan Dale Grayson, Cyd-bennaeth Hawliau a Pholisi yn All3Media, a Phil Stead, Pennaeth Materion Busnes Cwmni Da.

Newyddion

07/12/23

Castio ar gyfer y Deian a Loli Newydd

Mae Cwmni Da yn chwilio am ddau blentyn rhwng 9-12 oed i gymryd rhan Deian a Loli yn y gyfres newydd, fydd yn dechrau ffilmio ym mis Mehefin 2024....

Darllen Mwy

Newyddion

05/09/23

Sianel Carioci Noson Lawen.

Mae sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio ar safle YouTube Noson Lawen....

Darllen Mwy

Newyddion

10/08/23

Noson Lawen yn denu 10 miliwn o wylwyr ar YouTube

Mae fideos o'r rhaglen adloniant Noson Lawen bellach wedi cael eu gwylio 10 miliwn o weithiau ar sianel YouTube....

Darllen Mwy