Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro
Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni’n falch iawn o’ch hysbysu i’r Bwrdd gytuno’n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. Bethan yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r cwmni ar hyn o bryd, ac fe fydd yn cymryd y rôl Rheolwr Gyfarwyddwr am gyfnod am oddeutu 6 mis.
Ymunodd Bethan â Cwmni Da yn 2007, bu’n rheoli’r timau gweinyddol a chyllid cyn ei phenodiad yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2017. Gan arwain y broses o drosglwyddo’r cwmni i fusnes sy’n eiddo i’r gweithwyr yn 2019, mae Bethan yn gyfrifol am holl agweddau gweithredol. Mae’n aelod o fwrdd a chyngor y gymdeithas fasnach, TAC.
Bydd Llion Iwan yn gadael i ddechrau swydd fel Pennaeth Cynnwys S4C yn fuan. Hoffai Cwmni Da ddiolch o galon i Llion am ei gyfraniad gwerthfawr ac rydym ni’n anfon ein dymuniadau gorau iddo yn ei rôl newydd cyffrous.
Bydd apwyntiad dros dro Bethan yn rhoi sefydlogrwydd i’r cwmni wrth i ni gynnal proses gynhwysol i drafod anghenion arwain y cwmni ar gyfer y dyfodol.