07/12/23

Castio ar gyfer y Deian a Loli Newydd

Mae Cwmni Da yn chwilio am ddau blentyn rhwng 9-12 oed i gymryd rhan Deian a Loli yn y gyfres newydd, fydd yn dechrau ffilmio ym mis Mehefin 2024.

Does dim rhaid cael unrhyw brofiad blaenorol o actio na pherfformio – dim ond brwdfrydedd a digonedd o egni!

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rhan Deian neu Loli, llenwch y ffurflen hon ac uwchlwytho fideo byr o’ch plentyn (dim mwy na 2 funud) yn dweud stori ddiddorol amdano/amdani ei hun.

Byddwn yn creu rhestr fer o’r ymgeision ac yn eu gwahodd i weithdy rhywbryd ym mis Ionawr a Chwefror.

Bydd y ffilmio yn digwydd rhwng Mehefin-Hydref 2024
Rhaid i’r plentyn fod yn 9 mlwydd oed erbyn 1/06/2024
Rhaid i’r plentyn fod yn rhugl yn y Gymraeg
Rhaid i’r fideos fod wedi eu ffilmio mewn 1080p a 30FPS (sef y gosodiad cyffredinol ar gyfer ffonau clyfar).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â nerys.lewis@cwmnida.tv

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais.

Newyddion

04/09/25

Enwebiadau BAFTA Cymru i Gynyrchiadau Cwmni Da

Mae Cwmni da yn dathlu'r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/05/25

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair

Bydd actor a chyfarwyddwr arobryn yn arwain canolfan ddrama newydd mewn cwmni cynhyrchu teledu yng ngogledd Cymru....

Darllen Mwy
An external photograph of the Cwmni Da studio

Newyddion

07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy