09/01/24

Cwmni Da yn derbyn buddsoddiad gan Media Cymru ar gyfer ymchwil cynhyrchu rhithiol

Mae Media Cymru wedi dyfarnu cyllid i 24 o fusnesau a gweithwyr llawrydd i archwilio ystod o brosiectau arloesol sydd wedi’u cynllunio i roi hwb i sector y cyfryngau yng Nghymru.  

Mae’r Gronfa Ddatblygu yn rhoi hyd at £50,000 i ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu syniadau yn gynnyrch neu’n wasanaethau diriaethol er budd sector y cyfryngau yng Nghymru.   

Mae prosiectau ar gyfer 2024 yn cynnwys creu profiadau digwyddiadau rhithwir, defnyddio deallusrwydd artiffisial moesegol, archwilio’r genhedlaeth nesaf o Realiti Estynedig sy’n seiliedig ar gerddoriaeth a datblygu ffrwd newydd o animeiddiadau 2D a 3D.  

Mae 10 o’r 18 o brosiectau a ariannwyd wedi symud ymlaen o Gronfa Sbarduno Media Cymru a byddant yn parhau â’u taith Ymchwil a Datblygu mewn meysydd sy’n cynnwys hyfforddiant e-chwaraeon, hyrwyddo mynediad at Gynhyrchu Rhithwir a’r defnydd o dechnolegau ymdrwythol mewn therapi.   

Mae prosiect Cwmni Da’s yn gydweithrediad gyda’r arbenigwr XR, Klaire Tanner er mwyn ymchwilio ymarferoldeb stiwdio rithiol ar gyfer cynhyrchu’r gyfres boblogaidd Deian a Loli. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Media Cymru, yr Athro Justin Lewis:   

“Rydym wedi ein cyffroi gan y prosiectau rydym yn eu cefnogi yn y rownd ariannu hon, sy’n archwilio arloesedd wrth adrodd straeon, ffyrdd newydd o wneud busnes, yn ogystal â ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau newydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i’w helpu i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd i ychwanegu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i economi greadigol Cymru.”  

Mae Ffrwd Arloesedd Media Cymru yn cynnwys cyfres o gyfleoedd hyfforddi ac ariannu sy’n targedu pobl greadigol ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd a’u datblygiad.   

Bydd gan brosiectau Cronfa Datblygu llwyddiannus hyd at 12 mis i gwblhau eu prosiect. Ar ôl cwblhau, gall ymgeiswyr wedyn wneud cais am gyllid Uwchraddio o hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o raddfa ac uchelgais sylweddol sydd â’r potensial i fod yn drawsnewidiol a chael effaith ryngwladol. Bydd Cronfa Uwchraddio Media Cymru yn agor eto ym mis Medi 2024. Ewch i wefan Media Cymru i gael rhagor o fanylion.  

Prosiectau a ariennir  

 

An external photograph of the Cwmni Da studio

Newyddion

07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy

Newyddion

19/02/24

Cwmni Da yw un o’r llefydd gorau i weithio yn y DU

Mae cwmni cynhyrchu teledu arloesol o ogledd Cymru wedi cael pedwar achos i ddathlu yn ddiweddar - gan gynnwys cael ei ganmol fel un o'r llefydd gorau i weithio yn y DU. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/01/24

Castio plant ar gyfer STAD

Mae Cwmni Da a Triongl yn chwilio am dri phlentyn ar gyfer y gyfres newydd o Stad, dechrau ffilmio ym mis Mawrth 2024....

Darllen Mwy