07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

An external photograph of the Cwmni Da studio

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C. Mae Cwmni Da yn anfon ein diolch mawr i Llion am ei gyfraniad gwerthfawr fel Rheolwr Gyfarwyddwr a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Cynnwys ers 2019. Roedd Llion yn allweddol i lwyddiant y cwmni yn ystod y cyfnod hwn, yn denu comisiynau o bob fath gan sawl darlledwr, ac yn gyrru dri cyd-cynhyrchiad rhyngwladol. O dan ei arweiniad, mae Cwmni Da wedi mynd o nerth i nerth, ac mae’n gadael y cwmni mewn sefyllfa o gryfder .  

Llion IwanTalodd Bwrdd Cwmni Da deyrnged i Llion mewn llythyr o ddiolch cafodd ei rhannu gyda’r gweithlu gan un o’r cyfawyddwyr, Phil Williams: “Mae Llion wedi bod yn arweinydd ysbrydoledig, wastad yn barod i feddwl yn greadigol am ffyrdd newydd o weithio ac am lefydd newydd i fynd â Cwmni Da.  Mae ei arweiniad a’i syniadau wedi galluogi’r cwmni i ddatblygu i feysydd newydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.“  

Mae’r Bwrdd, hefyd yn falch iawn o benodiad Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro.  Roedd Bethan eisiau talu teyrnged i Llion hefyd ar ran y cwmni. “Mae dy arweiniad wedi bod yn allweddol i ni dros y chwe blynedd diwethaf, ac yn enwedig dros cyfnod heriol y pandemig. Rydyn ni, fel cwmni yn anfon ein gwerthfawrogiad, ac ein dymuniadau gorau i ti yn dy rôl newydd.  Diolch i ti am y gwaddol wyt wedi’i adael ar dy ôl yma yn Cwmni Da.”
 

Newyddion

04/09/25

Enwebiadau BAFTA Cymru i Gynyrchiadau Cwmni Da

Mae Cwmni da yn dathlu'r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. ...

Darllen Mwy

Newyddion

16/05/25

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair

Bydd actor a chyfarwyddwr arobryn yn arwain canolfan ddrama newydd mewn cwmni cynhyrchu teledu yng ngogledd Cymru....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy

Newyddion

19/02/24

Cwmni Da yw un o’r llefydd gorau i weithio yn y DU

Mae cwmni cynhyrchu teledu arloesol o ogledd Cymru wedi cael pedwar achos i ddathlu yn ddiweddar - gan gynnwys cael ei ganmol fel un o'r llefydd gorau i weithio yn y DU. ...

Darllen Mwy