Mae Cwmni da yn dathlu’r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru.
Mae ein cyfresi, Deian a Loli a Pwy Sut Pam wedi derbyn enwebiadau o fewn y categori plant eleni.
Daeth dau enwebiad hefyd i griw cyfres Chris ‘Flamebaster’ Roberts; un ar gyfer Llond Bol o Sbaen yng nghategori rhaglenni adloniant ac un arall i Chris yng nghategori’r cyflwynwyr ar gyfer Chris Cooks Cymru.
“Mae cyrraedd rhestr enwebiadau BAFTA Cymru yn anrhydedd ynddo’i hun, ‘da ni’n falch iawn o’r holl dimau cynhyrchu. Hei lwc fis Hydref!” meddai Bethan Griffiths, Prif Weithredwr Cwmni Da.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar ddydd Sul y 5ed o Hydref, 2025. Llongyfarchiadau mawr i’r criwiau cynhyrchu a phob lwc ar y diwrnod mawr!