16/05/25

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair

Newidiadau dramatig yn cyhoeddi dyfodol disglair i Cwmni Da 

Mae penodi Martin Thomas i redeg yr adran newydd o fewn Cwmni Da yn rhan o gynllun ehangu i ddiogelu a chreu swyddi yn y cwmni teledu o Gaernarfon sy’n eiddo i’r gweithwyr.

Dywedodd: “Mae potensial enfawr i ddatblygu rhywbeth cyffrous iawn. Os yw cewri fel Netflix, Amazon a HBO yn dod i ogledd Cymru i ffilmio, yn sicr gallwn ddefnyddio’r lleoliadau hynny i greu drama o safon uchel i S4C a darlledwyr eraill.”

Mae’r symudiad yn rhan o gynlluniau i ad-drefnu’r cwmni yn dilyn ymadawiad y rheolwr gyfarwyddwr Llion Iwan, a adawodd i fod yn brif swyddog cynnwys newydd S4C ar ôl chwe blynedd lwyddiannus gyda Cwmni Da.

Mae’r ad-drefnu hefyd wedi gweld y cyfrifydd siartredig Anna Roberts yn cael ei phenodi i ymuno â’r tîm cyllid.

Yn y cyfamser, mae Sioned Wiliam, cyn-reolwr comedi ITV, wedi dychwelyd i’r bwrdd fel cyfarwyddwr anweithredol ar ôl cyfnod fel prif weithredwr dros dro S4C.

Yn ôl Martin, sy’n hanu o Ddeiniolen ac sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, cafodd flas ar ddrama pan gafodd ran mewn sioe yn yr hen Theatr Gwynedd ym Mangor pan oedd yn 12 oed.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach serennodd mewn drama nodedig ar S4C,sef Traed Mewn Cyffion, oedd yn seiliedig ar nofel enwog Kate Roberts.

Ar ôl astudio’r celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai, bu’n actio mewn sawl rhan ar y teledu cyn cael clyweliad llwyddiannus i ymddangos ar opera sebon Rownd a Rownd.

Chwaraeodd ran y cyn-garcharor Eifion am chwe blynedd ac aeth ymlaen i fod yn un o gyfarwyddwyr y sioe ac yn fwy diweddar mae wedi cyfarwyddo penodau o opera sebon arall ar S4C, sef Pobol y Cwm.

Mae Martin eisoes yn wyneb cyfarwydd yn Cwmni Da ar ôl gweithio i’r cwmni fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd llawrydd am ddegawd a bu’n rhan fawr o lwyddiant y rhaglen boblogaidd i blant Deian a Loli ar S4C, a enillodd llu o wobrau, gan gynnwys hat-tric o wobrau BAFTA Cymru.

Yn fwy diweddar cyfarwyddodd ddwy bennod o’r gyfres ddrama yng Nghaernarfon, STAD, a fydd yn cael eu dangos ar S4C cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd: “Rwy’n ffodus bod cymaint o bobl dalentog yma, staff a gweithwyr llawrydd, ym mhob agwedd o’r gwaith – cynhyrchu, sgriptio, criwiau cynhyrchu a’r actorion wrth gwrs.

“Mae’r ffaith bod Deian a Loli yn dal i gael ei henwebu ac yn ennill gwobrau ar ôl 10 mlynedd yn dangos cryfder y brand ac ansawdd gwaith ein tîm bach.

“Rydw i wrthi ar hyn o bryd yn paratoi i ffilmio’r 10 pennod nesaf dros yr haf gyda’r teulu presennol ac rydym bellach ar ein pumed set o gymeriadau oherwydd bod y teulu’n adfywio, fel petai, bob dwy flynedd.”

“Roedd y cynnig i arwain y ganolfan ddrama newydd yn Cwmni Da yn syrpreis enfawr ond braf iawn.

“Rydw i wastad wedi cael perthynas gref iawn gyda’r cwmni ac maen nhw wedi dangos ffydd ynof i roi’r cyfle i mi gyfarwyddo a chynhyrchu Deian a Loli felly mae’n teimlo fel dilyniant naturiol.

“Mae’n wych bod Cwmni Da yn dangos cymaint o bositifrwydd trwy fuddsoddi mewn drama a chynnwys wedi’i sgriptio, boed yn ffilmiau byrion, ffilmiau hirach, cyfresi drama, dramâu annibynnol – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

“Mae’n bwysig iawn cael drama wedi’i hangori yn y Gogledd – mae cymaint o arbenigedd a thalent yma ac mae yna straeon afaelgar y mae angen eu hadrodd am ogledd Cymru gan bobl gogledd Cymru.

“Mae drama a chynnwys wedi’i sgriptio yn cwmpasu sbectrwm eang – popeth o ddramâu i blant i ddrama a chomedi sy’n cael ei yrru gan y gymuned a chymeriadau i straeon ditectif safonol yr holl ffordd i ffilmiau hirach. Rydym eisiau rhyddhau ein hegni a’n creadigrwydd i wneud rhywbeth arbennig iawn.”

Rhywun arall sydd un mor gyffrous i ymuno â Cwmni Da yw Anna Roberts, sy’n hanu o Nefyn ac sy’n byw yn Llanrug.

Dychwelodd i ogledd Cymru ar ôl astudio a gweithio ym Manceinion am 12 mlynedd cyn ymgymryd â swydd ryngwladol gyda chwmni meddalwedd bancio.

Dywedodd Anna: “Rwy’n hoffi teithio ond rwy’n caru Cymru, does dim unman yn debyg i gartref. Dyma lle mae fy nghalon.

“Daeth y cynnig i ddod i weithio i Cwmni Da ar yr union adeg iawn – ni allwn fod wedi dymuno unrhyw beth gwell. Mae’n amser cyffrous iawn i ymuno â’r cwmni.”

Adleisiwyd hynny gan reolwr gyfarwyddwr dros dro’r cwmni, Bethan Griffiths.

Dywedodd: “Roedden ni eisoes yn cynhyrchu ac yn datblygu drama ac roedd Martin yn rhan o hynny ac roedden ni eisiau sicrhau bod drama a chynnwys wedi’u sgriptio yn parhau i gael ei gynhyrchu yn y Gogledd ac yn rhan  bwysig o ffocws Cwmni Da.

“Rydym eisiau cadw ein stôr o arbenigedd a thalent felly mae creu’r ganolfan ddrama newydd yn ddilyniant naturiol a rhesymegol o’r hyn rydym yn ei wneud eisoes.

“Mae gennym lawer o bobl dalentog iawn sy’n caru cynnwys wedi’i sgriptio yn ei holl ffurfiau.

“Rydym wedi bod yn cynhyrchu Deian a Loli ers degawd ac rydym wedi ffilmio 100 pennod ac mae Martin wedi bod yn rhan o’r llwyddiant hwnnw o’r cychwyn cyntaf.

“Mae’n berson addas iawn i yrru hyn ymlaen oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr mor wych, angerddol a manwl.

“Dyma’r rhinweddau a fydd yn ein helpu i wireddu ein potensial llawn yn y maes hwn oherwydd bod gennym y gallu a’r capasiti i wneud cymaint mwy.

“Mae penodi Anna yn rhan o’r un broses o ddatblygu a thyfu fel cwmni, gan broffesiynoli’r cwmni trwy gael cyfrifydd siartredig fel rhan o’r tîm.

“Mae profiad, gwybodaeth a chysylltiadau Sioned, yma yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd, hefyd yn amhrisiadwy.

“Roedd colli Llion yn her fawr ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn rhoi pethau yn eu lle fel y gallwn symud y cwmni yn ei flaen.

“Mae hyn i gyd yn gosod sylfeini ar gyfer y bennod nesaf yn hanes Cwmni Da, diogelu swyddi presennol, creu rhai newydd a rhoi hwb i’r economi leol.

“Mae’n amser cyffrous iawn ac rydym am wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau i fanteisio ar bob cyfle sy’n dod i’n ffordd.”

 

Newyddion

04/09/25

Enwebiadau BAFTA Cymru i Gynyrchiadau Cwmni Da

Mae Cwmni da yn dathlu'r wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. ...

Darllen Mwy
An external photograph of the Cwmni Da studio

Newyddion

07/03/25

Dymuniadau Gorau i Llion Iwan

Mae Llion Iwan yn gadael Cwmni Da heddiw ar  ôl 6 mlynedd gyda’r cwmni, i gychwyn rôl newydd gydag S4C....

Darllen Mwy
Doc Fictoria

Newyddion

04/03/25

Bethan Griffiths yn cael ei phenodi yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da dros dro 

Yn dilyn cyfarfod llawn o Fwrdd Cwmni Da Ymddiriedolwr, rydym ni'n falch iawn o'ch hysbysu i'r Bwrdd gytuno'n unfrydol i benodi Bethan Griffiths yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cwmni Da. ...

Darllen Mwy

Newyddion

19/02/24

Cwmni Da yw un o’r llefydd gorau i weithio yn y DU

Mae cwmni cynhyrchu teledu arloesol o ogledd Cymru wedi cael pedwar achos i ddathlu yn ddiweddar - gan gynnwys cael ei ganmol fel un o'r llefydd gorau i weithio yn y DU. ...

Darllen Mwy